Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 10 Gorffennaf 2023
Amser:
09.51 -
10.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13409
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Natasha Asghar AS John Griffiths AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Bethan Garwood (Dirprwy Glerc) Huw Williams (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant na dirprwyon.
2 Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau
2.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd i ymgynghori â grwpiau ar y materion a drafodwyd yn gynnar yn nhymor yr hydref.
2.2. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
3 Adolygiad o’r Polisi Urddas a Pharch
3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd i ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd ac ymgynghori â defnyddwyr rheolaidd yr adeilad ynglŷn â’u profiadau.
4 Diwygio'r Mesur Comisiynydd Safonau
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i ddechrau gwaith paratoi ar Fil i ddiwygio Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.
5 Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).
6 Papurau i'w nodi
6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.